
Dadansoddiad o’r holiadur a anfonwyd at rieni yn
Nhymor y Gwanwyn 2011
Yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn academaidd hon, penderfynodd y Llywodraethwyr y dylid cysylltu gyda rhieni i weld beth yw eu barn am yr ysgol. Nid dyma’r tro cyntaf i’r ysgol redeg ymarferiad o’r fath, ac roedd y canlyniadau a gasglwyd y tro diwethaf, yn 2008 yn werthfawr iawn.
Yn fuan yn 2011, aeth y Pwyllgor Cwricwlaidd ati i gynhyrchu holiadur, gan ddefnyddio enghreifftiau o arfer da gan Estyn ac o ffynonnellau eraill er mwyn arwain y gwaith. Penderfynwyd rhannu’r holiadur yn nifer o adrannau, er mwyn delio gyda’n blaenoriaethau mewn ffordd glir a syml.
Ein blaenoriaethau oedd:
• Addysgol
• Bugeiliol
• Partneriaeth â rhieni
• Allgyrsiol
• Rhedeg yr ysgol
Ein gobaith oedd casglu gwybodaeth nid yn unig am yr ochr addysgol ond hefyd am rôl ehangach yr ysgol ym mywydau ein teuluoedd ac yn y gymuned yn gyffredinol. Yn ogystal, roedd yn gyfle i ni werthuso elfennau allgyrsiol fel yr Urdd, cyngherddau ayb.
Roeddem yn ymwybodol iawn o’r ffaith mai bychan fyddai’r sampl ddadansoddol gan ein bod yn ysgol fechan, ac felly, rhag bod yn or-ddibynnol ar ystadegau, rhoddwyd cyfle hefyd i rieni gynnig sylwadau i ategu unrhyw bwynt.
Byddwn yn dadansoddi’r sylwadau ar wahan.
Roedd croeso i rieni ymateb yn ddi-enw.
Anfonwyd yr holiadur allan ym mis Chwefror 2011, cliciwch yma i weld yr adroddiad.
Nid bwriad yr adroddiad hwn yw cynnig barn am yr ymatebion na’r sylwadau, ond yn hytrach ddadansoddi’r holiaduron a ddaeth i law yn ystod yr ymarferiad.
|