Yn unol â gofynion Ddeddf Addysg 1986 mae'r Awdurdod Addysg wedi llunio ac yn bwriadu adolygu'n rheolaidd ddatganiad ysgrifenedig o'i bolisi mewn perthynas â'r cwricwlwm secwlar. Dehongli gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyd-destun athroniaeth a pholisïau presennol yr Awdurdod.
Mae'r cynllun sydd yn cael ei ddefnyddio yn Ysgol Gymuned Penisarwaun wedi ei seilio ar ddogfen yr Awdurdod Addysg ac yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys manylion am y cwrs addysg a'r ffordd mae'n cael ei weithredu er mewn sicrhau bod yr addysg sydd yn cael ei gynnig i'r disgyblion yn cyfarfod ac amcanion yr ysgol.
Yr amcanion cwricwlaidd mae Corff Llywodraethol yr ysgol wedi eu mabwysiadu yw bod Ysgol Gymuned Penisarwaun yn creu awyrgylch, cyfleoedd, ac adnoddau fydd yn:
- creu amgylchfyd ac awyrgylch lle gall y disgybl dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolyn hyderus, yn ymwybodol o les eraill ac i ddatblygu ac ymarfer ei holl ddoniau/doniau a datblygu i'w lawn neu llawn botensial.
- cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl sydd yn adlewyrchu gofynion yr Awdurdod, y gymdeithas a'r unigolyn.
- cymhwyso'r plentyn:
i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog, a bod yn ymwybodol
o'r etifeddiaeth Gymreig, i gyfrannu i'r gymdeithas, i dderbyn oddi
wrth y gymdeithas, ac i fyw yn gytûn yn y gymdeithas.
- paratoi’n ddinasyddion cyfrifol.
Er mwyn hybu'r amcanion yma bydd yr ysgol yn ceisio:
- Datblygu sgiliau llefaredd, llythrennedd a rhifedd y plentyn ar yr un pryd a meithrin chwilfrydedd, dychymyg a diddordeb y plentyn.
- Cynyddu gwybodaeth a datblygu gallu rhesymu y plentyn fel ei fod ef neu hi yn hyderus wrth ddelio a phrosesau a thechnegau newydd, ac yn gallu byw yn hapus a llwyddiannus mewn byd sydd yn newid drwy'r amser.
- Creu'r awydd ym mhob plentyn i fod eisiau dysgu a phrofi pethau newydd yn ystod ei fywyd, a datblygu synnwyr moesol ac ysbrydol .
- Cynorthwyo'r plentyn i fedru byw a gweithio gydag eraill a datblygu agweddau fydd yn galluogi'r plentyn i fod yn aelod cyfrifol o gymdeithas.
- Datblygu yn y plentyn sensitifrwydd, gwerthfawrogiad esthetig a sgiliau hamdden .
- Trin a darparu ar gyfer pob plentyn fel unigolyn sydd yn haeddu sylw arbennig.
- Cyflwyno syniadau a chysyniadau mewn dull sydd yn fywiog a deinamig er mwyn dal sylw a chadw diddordeb y plant.
- Meithrin cysylltiad iach rhwng ysgol a chymdeithas, gan ystyried yr ysgol fel sefydliad sy'n rhan o'r gymdeithas leol.
- Meithrin ymdeimlad o falchder yn yr ysgol, ei disgyblion, athrawon a'i chyfraniad i'r gymdeithas.
Fframwaith Academaidd
Mae'r fframwaith academaidd yr ysgol wedi ei seilio ar y syniad o'r ysgol fel un uned teulu bychan. Mae'r un uned wedyn yn cael eu rhannu'n ddosbarthiadau llai yn ôl oedran y plant gydag un aelod o staff yn gyfrifol am bob dosbarth. Oherwydd natur yr ysgol, a'r cyd-weithio agos rhwng aelodau staff, mae'r athrawon yn dod i adnabod holl blant yr ysgol ac mae hyn yn hybu gofal bugeiliol a chreu dilyniant. Ar hyn o bryd mae'r dosbarthiadau wedi eu trefnu fel a ganlyn:
| DOSBARTH |
OED |
ATHRO/ ATHRAWES |
| Meithrin , Derbyn Bl a 2 (CA1) |
3-7 |
Mrs C Jones/ Mrs Rhian White |
| Bl 3 a 4 (CA2) |
7-9 |
Mrs Sharon Ray |
| Blwyddyn 5 a 6 (CA2) |
9-11 |
Mr Gareth F Jones |
Os oes unrhyw newid i'r trefniadau yma bydd rhieni yn derbyn llythyr gyda'r manylion.
Patrwm Gwaith
Er mwyn ymateb i holl amcanion yr ysgol, ac er mwyn sicrhau profiadau gwerthfawr ac eang i'r plant mae'r patrwm gwaith yn gallu bod yn hyblyg.
Yn gyffredinol mae'r plant yn cael eu dysgu fel uned ddosbarth dan ofal athro/athrawes sefydlog. O fewn y dosbarth mae'r plant wedyn yn cael profiadau o weithio fel unigolion, o gyd-weithio mewn grwpiau bach o blant yr un oed, neu gyd-weithio mewn grwpiau o oed cymysg.
Y Cwricwlwm
Mae'r ysgol wedi cynllunio'r cwricwlwm gan ddilyn awgrymiadau Cyngor Cwricwlwm Cymru ar bynciau craidd a phynciau sylfaenol.
Y pynciau craidd yw Cymraeg, Saesneg (CA2), Mathemateg, a Gwyddoniaeth.
Y Pynciau sylfaenol yw Technoleg, Hanes, Daearyddiaeth, Celf, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, a Thechnoleg Gwybodaeth.
Mae'r pynciau yn cael eu cyflwyno i'r plant drwy ddilyn themâu penodol o fewn y dosbarth sydd yn arwain at weithgareddau a phrofiadau ym mhob maes. Mae'r athrawon yn cofnodi cyfraniad pob 'pwnc' i'r thema mewn ffordd systematig er mwyn sicrhau bod y plant yn derbyn addysg gyflawn o fewn y cwricwlwm. Ar rai adegau bydd pynciau fel Mathemateg, Iaith, Cerdd ac Addysg Grefyddol yn cael eu dysgu tu allan i'r brif thema.
Addysg Grefyddol
Mae Addysg Grefyddol yn cael ei ddysgu i holl blant yr ysgol ac mae disgwyl i bob plentyn gymryd rhan yn y cyd-addoli oni bai bod rhiant yn eithrio' plentyn o'r gwersi a/neu cyd addoliad boreol. Os yw plentyn yn cael ei eithrio bydd trefniadau addas yn cael eu gwneud. Nid oes gan yr ysgol gysylltiad uniongyrchol a ffurfiol gydag unrhyw enwad crefyddol penodol.
Addysg Rhyw ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae Addysg Rhyw bellach yn rhan anatod o’r Cwricwlwm Gwyddoniaeth ac fe gyflwynir y cysynyiadau a’r eirfa berthnasol yng Nghyfnod Allweddol 1. Adeiladir ar y wybodaeth a chynyddir yr eirfa yn ystod blynyddoedd yr Adran Iau. Mae polisi cynhwysfawr wedi ei baratoi ac mae ar gael i’w weld pe dymunir hynny.
Llythyrir gyda rhieni i’w hysbysu os yw y gwaith gwyddoniaeth yn cynnwys addysg rhyw, ac mae ganddoch yr hawl i eithrio eich plant rhagddo os dyna yw eich dymuniad.
Yn yr un modd, mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn ofyn statudol ac rydym yn cyflwyno hyn fel rhan o weithgareddau dosbarth. Mae’r plant yn datblygu sgiliau cymdeithasol niferus –sut i wneud a chadw ffrindiau, sgiliau datrys problemau, rheoli tymer ac adnabod a deall emosiynau a theimladau. Cynigir cyfleoedd i rannu pryderon a pherchir pob cyfrinachedd. Mae’r cynllun Webster-Stratton yn atgyfnerthu ein hamcanion o greu ymagwedd bositif ymysg y disgyblion a’r staff.
Cyfle Cyfartal
Cydnabyddwn bod ein plant yn tyfu i fyny mewn cymdeithas eang a nodweddir gan wahaniaethau, nid yn unig mewn hil ond crefydd, gwisg, bwyd ac iaith sy'n adlewyrchu'r newidiadau cyfoes hyn. Anelwn, felly, at adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn ac ehangu ar addysg yr holl ddisgyblion i'w galluogi ddeall a gwerthfawrogi natur aml-ddiwylliannol amrywiol gymdeithasau. Yn Ysgol Penisarwaun byddem yn:-
- Darparu cyfle cyfartal i bob disgybl, beth bynnag fo’i ryw, ei allu, ei gefndir diwylliannol a’i ethnig.
- Sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef rhagfarn ar sail hil, cred, rhyw, iaith, gallu addysgol, safle cymdeithasol nac anabledd
- Sicrhau fod holl ystod y cwricwlwm ac holl adnoddau yr ysgol ar gael i bob disgybl.
- Sicrhau fod agweddau cymdeithasol cadarnhaol yn cael eu meithrin yn yr ysgol.
- Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng aelodau gwahanol grwpiau a chymunedau hiliol, diwylliannol a chrefyddol.
- Gwared o wahaniaethu anghyfreithlon - yn seiliedig ar ddeddf cysylltiadau Hiliol (Diwygiedig) 2000.
Mae Polisi Cyfle Cyfartal yr ysgol yn ategu’r crynodeb uchod.
Addysg Gorfforol
Mae'r mwyafrif o bobl ifanc yn cael eu blas cyntaf ar chwaraeon yn yr ysgol, ac mae'n holl bwysig ein bod yn annog merched a bechgyn ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon o'u dyddiau cynnar. Y bwriad yw annog pawb i gynnwys ymarfer corff a chwaraeon yn ei bywyd - boed hynny ar y lefel uchaf neu ar raddfa gymdeithasol.
Er mwyn hybu diddordeb a sgiliau mae'r ysgol yn cynnig nifer o chwaraeon. Y bwriad ydi annog pob unigolyn i ymestyn gallu a llwyddo ar lefel bersonol.
Mae disgwyl i bob plentyn ddod â dillad ac esgidiau addas i'r ysgol ar gyfer Addysg Gorfforol. Cyn y wers bydd pob plentyn yn newid i ddillad ac esgidiau addas ac yna yn newid i ddillad arferol ar ddiwedd y wers. Am resymau diogelwch mae'n rhaid i bob plentyn dynnu modrwyau, cadwyni, a chlust dlysau cyn y wers. Os yw plentyn yn gwrthod nid oes gan athrawon hawl i dynnu’r tlysau oddi ar y plentyn am resymau cyfreithiol ac felly cyfrifoldeb y rhieni fydd unrhyw niwed neu golled o ganlyniad i wisgo tlysau yn ystod gwers Addysg Gorfforol. Ni fydd y plant yn gwisgo esgidiau ar gyfer gweithgareddau dan do.
Os yw plentyn yn benthyg dillad tîm ysgol mae'n rhaid eu dychwelyd i'r ysgol ar ôl y gêm wedi cael eu golchi.
Cynhelir dwy wers Addysg Gorfforol yn wythnosol. Hefyd mae’r ofynnol i’r disgyblion gymryd rhan yn y gwersi nofio, gymnasteg ac athletau (cyfystyr ag un wers Addysg Gorfforol) yn y Ganolfan Hamdden.
Yn ogystal cynhelir clybiau nos megis campau’r ddraig, Clwb Pêl - droed a Chlwb pêl - rwyd.
Nodau’r ysgol o ran chwaraeon a darpariaeth chwaraeon :-
- Rhoi cyfle i’r plant brofi llwyddiant mewn ystod eang o chwaraeon.
- Hybu’r plant i fod yn hyderus yn eu gallu athletaidd a’u defnydd o offer chwaraeon.
- Parhau i gystadlu mewn gweithgareddau dalgylchol/sirol a cheisio ehangu hynny i gystadlaethau newydd pan yn bosibl.
- Manteisio ar gynnig arbenigwyr i hyfforddi ac hyrwyddo polisiau ieuenctid y clybiau chwaraeon lleol.
- Hybu ffitrwydd pob plentyn o fewn yr ysgol.
Darllen
Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddarllen. Cynllun darllen ar y cyd sydd yn cael ei ddefnyddio bennaf.
Yn ystod CA1 mae'r plant yn mynd â llyfrau adref ar ddydd Llun a dydd Gwener i'w darllen gyda'u rhieni. Mae disgwyl i rieni wrando ar neu gyd-ddarllen gyda'r plentyn a chofnodi hyn ar ffurflen bwrpasol cyn bod y plentyn yn dychwelyd y llyfr(au) i'r ysgol.
Yn ystod CA2 mae disgwyl bod y plant wedi meithrin mwy o annibyniaeth, ac yn darllen gan eu bod yn mwynhau darllen. Unwaith eto bydd llyfrau ar gael i'r plentyn eu darllen adref, ac mae’r ysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth a brwdfrydedd rhieni wrth annog eu plant i ddarllen. Mae sgiliau defnyddio llyfrgell yn cael ei datblygu ar yr un pryd.
Asesu
Mae datblygiad cymdeithasol ac addysgol pob plentyn yn cael ei fesur a'i gofnodi drwy gydol y cyfnod addysgol (4-11 oed). Mae asesu’n broses barhaus sy’n digwydd o ddydd i ddydd yn yr ysgol. Bydd yr athrawon yn asesu plant yn anffurfiol drwy’r amser - gan gofnodi asesiad ffurfiol bob tymor.
Ar ddiwedd blwyddyn ysgol bydd yr athrawon yn crynhoi’r wybodaeth a rhoi asesiad diwedd blwyddyn i bob plentyn.
- Bydd plant 4 oed yn cael eu hasesu yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysgol i roi i'r ysgol asesiad sylfaen o allu plentyn a'i anghenion.
- Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1 (Bl2) o’r Cwricwlwm Cenedlaethol mae asesiad athro yn ymdrin â phob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. (pynciau Craidd)
- Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 mae’n ofynnol i athrawon gynnal asesiadau drwy brofion neu dasgau dewisol (asesiad athro) i wneud eu hasesiad statudol ar gyfer pob targed cyrhaeddiad mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (pynciau Craidd.)
Bydd canlyniadau rhain ynghyd ag adroddiad llawn o lefel cyrhaeddiad y disgyblion yn y gwahanol bynciau yn cael eu paratoi ar gyfer y rhieni perthnasol erbyn diwedd y flwyddyn addysgol. Trosglwyddir canlyniadau a’r asesiadau athro Bl 6 i’r Ysgol Uwchradd fel bod y broses asesu’n gallu parhau’n rhwydd.
Mae gan bob rhiant hawl i weld cofnodion unigol eu plentyn yn ôl y drefn sydd wedi ei osod yn genedlaethol - sef rhoi blaen-rybudd o bythefnos i'r athro/athrawes berthnasol.
O bryd i'w gilydd mae asesiad yn gallu dangos bod plentyn yn wynebu anawsterau. Bryd hynny bydd yr ysgol yn gwadd y rhieni i'r ysgol i drafod yr anawsterau gyda gobaith o'u datrys cyn iddynt ddatblygu'n broblemau mwy dyrys.
Yn yr un modd, os yw asesiad yn dangos cynnydd pendant mewn gwaith plentyn bydd yr ysgol yn cysylltu â’r rhieni i rannu'r wybodaeth.
Anghenion Addysg Arbenig
Mae gan yr ysgol bolisi o integreiddio plant ag Anghenion Addysgol Arbennig yn llwyr i holl weithgareddau'r ysgol yn ôl gallu a photensial.
Mae camau pendant yn cael eu dilyn i adnabod disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig a darparu ar eu cyfer. Mae aelod o'r staff yn gyfrifol am gyd-gysylltu Anghenion Addysgol Arbennig o fewn yr ysgol, ac mae Llywodraethwyr penodol yn gyfrifol am gadw golwg ar y ddarpariaeth. Mae'r trefniadau ar gyfer plant unigol yn cael eu adolygu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn effeithiol ac yn addas. Bydd pob darpariaeth a wneir yn cael eu drafod a’i gytuno gyda rhieni cyn ei weithredu.
Llunnir CAU (Cynllun Addysg Unigol) i’r disgyblion sydd ar y gofrestr ac adolygir y targedau yn dymhorol; ar y cyd â’r athro dosbarth a’r cyd- gysylltydd AAA.
Mae adeiladu'r ysgol yn addas ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn cadeiriau olwyn. Yr ysgol yn berchen cynllun Hygyrchedd cyfredol
Addysg Gyflawn
Er bod pwyslais ar y Cwricwlwm Cenedlaethol yr ydym yn ymwybodol iawn fod yna ochr arall bwysig iawn i addysg a datblygiad cyflawn plentyn. Yn ysgol Gymuned Penisarwaun 'rydym yn ceisio datblygu holl ddoniau a sgiliau'r plant drwy weithgareddau fel cyngherddau: gwasanaethau amserol arbennig fel Diolchgarwch, Y Nadolig, Gŵyl Ddewi, ymweliadau, teithiau preswyl, clybiau gyda’r nos, gemau, gweithgareddau gydag ysgolion eraill o fewn y dalgylch, cefnogi gweithgareddau'r gymuned fel yr Eisteddfod, a.y.y.b.