
|

Parcio Ty allan i'r Ysgol
Mae nifer o blant yr ysgol yn cael eu danfon i'r a'u cyrchu o'r ysgol mewn car. Yn y gorffennol roedd pryder bod problemau parcio yn effeithio ar ddiogelwch y plant wrth iddynt fynd a dod o'r ysgol. Gofynnwyd i heddwas lleol ac un o swyddogion Adran Diogelwch y Ffordd roi eu barn broffesiynol ar sut i wella'r sefyllfa. Roedd y ddau yn argymell:
- Bod yn rhaid cadw'n glir o fynedfa Bryn Tirion, gan gofio ei bod yn anghyfreithlon parcio o fewn 10 medr i gyffordd.
- Dylai rhieni barcio wrth ochr y palmant i gyfeiriad Bryn Eglwys o'r ysgol.
- Bod plant yn dod allan o'r ceir ar ochr y palmant, ac nid ar ochr y ffordd.
- Nid oes gwrthwynebiad i 4 neu 5 o geir barcio yn y gilfan wrth fynedfa'r ysgol cyn belled:
- eu bod yn glir o’r safle mae'r ddynes lolipop yn croesi'r plant
- eu bod oddi mewn i'r marciau melyn.
- bod y gyrrwr yn aros gyda'r cerbyd er mwyn ei symud pe bai argyfwng a bod angen llwybr dirwystr drwy'r adwy.
Er mwyn diogelwch plant yr ysgol rydym yn hyderus bydd pob rhiant yn dilyn y canllawiau yma. |
|