
Ysgolion Gwyrdd
Mai 2011
Ysgol Werdd -
Her brwsh dannedd
Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion yr ysgol am lwyddo i gwblhau her brwsh dannedd Dwr Cymru. Mae hyn yn dangos ein bod yn deall gwerth dwr a’r rhan hanfodol mae’n ei chwarae yn ein bywyd bob dydd.
Dathlu penwythnos Gwyllt Dros Gymru
Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am gardiau rhodd B&Q gwerth £250 fel rhan o ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus. Byddwn yn defnyddio’r arian i wella bioamrywiaeth yr ysgol drwy brynu planhigion i ddenu ieir bach yr haf brodorol. Felly bydd y Cyngor Gwyrdd yn trefnu penwythnos o arddio cyn bo hir!
Wythnos amgylcheddol -
24 - 28 Ionawr 2011
Roedd gweithgareddau o bob math wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnos amgylcheddol yn ein hysgol ni.
 |

|
 |
Ben bore Llun daeth Bethan Copeland, y Swyddog Addysg o Ddŵr Cymru atom i roi cyflwyniad i’r ysgol gyfan ac yna gweithdy gyda dosbarthiadau Mr Jones a Mrs Ray..... cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Ionawr 2011 - Casglu Sbwriel
Buom ni yn nosbarth Mrs Ray yn brysur iawn yn casglu sbwriel o gwmpas y pentref. Daeth Mr Lee Oliver o Cadw Cymru'n Daclus atom i siarad am bwysigrwydd ailgylchu. Cafodd pawb fenyg a ffon bwrpasol ac i ffwrdd â ni i'r parc - nid i chwarae y tro hyn ond i weithio! Daethom o hyd i bob math o bethau gan gynnwys darn o gar, sbectol haul a phel droed! Cawsom amser gwych!
|
|

|
|

|
|
|
Ein neges ni ydi
"Rhowch eich sbwriel yn y bin." |
Ailgylchu cardiau nadolig
26 Tachwedd 2010 - Gwasanaeth Gwyrdd
Diolch i Sam, Magi, Catrin a Lois o flwyddyn 6 am gynnal gwasanaeth gwyrdd i’r ysgol gyfan drwy rannu’r neges am gynllun gwyrdd yr ysgol. Roedd pawb wedi mwynhau gwrando ar Y Gerdd Werdd gan Gwyneth Glyn,
Mae pob dosbarth wedi cael cadi cegin i ddal ffwythau ar gyfer eu rhoi yn y bin compostio.

Edrych ar ôl yr Adar
Bu blynynyddoedd meithrin, derbyn, 1, 2,3 a 4 yn brysur yn paratoi bwyd i’r adar yn ystod y tywydd rhewllyd. Roedd adar yr ardd yn ddiolchgar iawn iddynt.
 

Celf Amgylcheddol yn Yr Urdd
Daeth Swyddog Bio-Amrywiaeth Gwynedd atom ni i’r Urdd i wneud gwaith celf amgylcheddol. Cafodd pawb hwyl yn gwneud eu cynefinoedd bach mewn bocs.

Gweithgor Gwyrdd
Mae Gweithgor Gwyrdd wedi ‘i sefydlu yn yr ysgol er mwyn mynd i’r afael ag egwyddorion Siarter Ysgolion Gwyrdd Gwynedd a Môn.
Bydd y gweithgor yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion ‘gwyrdd’ ac i wneud penderfyniadau.
Dilynwch ein hynt ar y wefan hon wrth inni geisio am y dystysgrif arian eleni.
|
Pob lwc i’r gweithgor gyda’u gwaith pwysig! |
Prif nôd y cynllun yw darparu fframwaith er mwyn cynorthwyo ysgolion i fabwysiadu polisïau a gweithgareddau fydd yn gwarchod yr amgylchedd fel rhan ganolog o fywyd beunyddiol yr ysgol ac i:
- Godi ymwybyddiaeth o’r angen i ofalu am ei hamgylchedd
- Fod yn fwy darbodus yn ein defnydd o’r amgylchedd a rhwystro llygredd yn ein hardal ni
- Gydweithio i wella ein hamgylchedd
Bydd y cynllun yn cynorthwyo’r ysgol i edrych ar yr amgylchedd drwy:
- Leihau Gwastraff
- Arbed ynni ac adnoddau naturiol
- Lleihau a rhwystro llygredd
Mae’r Ysgol wedi cyflawn gwobr ysgolion efydd ers 2006.
Enillwyd y wobr drwy roi sylw i’r gweithgareddau isod drwy ein Themâu:
Lleihau gwastraff |
Hysbysu lle mae’r Banciau Ailgylchu o’r tu allan i’r ysgol.
- Adnabod eu lleoliad.
- Darparu cynllun syml o’r pentref yn nodi eu lleoliad.
- Tynnu sylw’r ysgol at eu lleoliadau trwy gyfeirio atynt mewn Gwasanaeth neu lunio poster
- Gyrru copi o’r poster i rieni ynghlwm â chylchlythyr a fydd yn cael ei ddosbarthu p’run bynnag
|
Lleihau gwastraff |
Sicrhau bod ail gylchu yn digwydd yn rhywbeth naturiol o fewn yr ysgol. Gwneud defnydd o funiau glas y Cyngor yn ogystal â Gwasanaeth Antur Waunfawr. |
Arbed Ynni |
Mewn rhai dosbarthiadau ceir synwyryddion sy’n adnabod os yw’r dosbarth yn wag |
Arbed Ynni ac Adnoddau Naturiol
|
Annog y disgyblion a’r staff i ddiffodd y golau cyn gadael yr ystafell am gyfnod o amser trwy –
- Sicrhau fod y sticeri codi ymwybyddiaeth yn cael eu gosod ger y switsys golau.
|
Arbed ynni |
Sicrhau bod y cyfrifiaduron ac offer trydan yn cael eu rhoi i ffwrdd gyda’r nos |
Lleihau ac Atal Llygredd
|
Ysgrifennu at Gwasanaethau Masnachol i’w holi ynglŷn â pha gemegau a ddefnyddir yn yr ysgol ar gyfer glanhau.
|
Gofalu am yr Amgylchedd Lleol
|
Cynnal arolwg o gyfoeth naturiol cynefin yr ysgol gan ddefnyddio'r templed perthnasol.
|
Teithio’n Ddoeth |
Casglu gwybodaeth ar ddulliau o deithio i’r ysgol.
Llunio holiadur arolwg i adnabod y dulliau teithio. |
Teithio’n ddoeth |
- Dosbarthu a chasglu’r holiadur.
|
Teithio’n ddoeth |
- Cynhyrchu tablau a graffiau gan ddefnyddio canlyniadau'r arolwg.
|
Teithio’n ddoeth |
- Cyflwyno’r casgliadau i’r Grŵp Gwyrdd.
|
|