
Mae gwaith cartref yn cael ei osod yn rheolaidd i blant drwy'r ysgol. Mae'r ysgol yn gobeithio bod pob cartref yn cydweithredu i hybu gwaith y plant.
Ambell dro mae gweithgarwch arbennig yn gofyn am wybodaeth gan rieni, perthnasau, a chymdogion, neu'n gofyn am waith holi a darganfod ar ran y plant. Mae'r ysgol yn sylweddoli mai cyfrifoldeb y cartref yw'r plentyn yn ystod yr oriau hyn ac mai yng ngoleuni'r cyfrifoldeb hwnnw bydd rhieni yn cytuno i gydweithredu.
O dro i dro mae angen i bob plentyn bron wneud gwaith ychwanegol i gryfhau neu ganolbwyntio ar agwedd arbennig o'r gwaith ysgol. Mae'r ysgol yn gobeithio cael cydweithrediad llwyr y cartref i annog y plentyn i wneud y gwaith ychwanegol ar adegau fel hyn.
|